Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Meddygaeth Gyffredinol
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR291-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
- Tref
- Hwlffordd
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 05/10/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 13/10/2025
Teitl cyflogwr

Nyrs Gofrestredig – Y Lolfa Ryddhau
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael ar gyfer Nyrs Gofrestredig yn Nhîm y Lolfa Ryddhau yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.
Mae hon yn swydd ran-amser am 22.5 awr.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan gydweithredu ag eraill er mwyn diwallu anghenion y cleifion a'u teuluoedd.
Bydd yn cynorthwyo i reoli a threfnu ei maes clinigol, gan gymryd rhan yn y gwaith o addysgu, datblygu a goruchwylio aelodau eraill o staff.
Gweithio ochr yn ochr ag aelodau'r tîm nyrsio, gan roi cymorth i gyd-weithwyr iau wrth iddynt ddarparu gofal uniongyrchol.
Amlygu gwerthoedd y Bwrdd Iechyd ym mhopeth y byddwch yn ei wneud yn yr amgylchedd gwaith.
Cynhelir y cyfweliadau ar 13/10/2025
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd prif ddyletswyddau’r rôl yn cynnwys y canlynol:
Asesu anghenion nyrsio'r cleifion, a chynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio er mwyn sicrhau y darperir gofal effeithiol iddynt.
Derbyn cleifion syn addas i gael eu rhyddhau yn dilyn adolygiad meddygol a gyda threfniadau i gynllunio i'w ryddhau.
Os bydd angen, cysylltu â thimau amlddisgyblaethol fel y bo'n briodol i gynorthwyo'r broses o gynllunio ar gyfer eu rhyddhau, yn ôl y gofyn.
Gweithio ar y cyd â thimau amlddisgyblaethol i sicrhau cyfathrebu rhagorol, yn enwedig mewn perthynas â chynllunio ar gyfer rhyddhau.
Cyflawni triniaethau wrth ofalu am gleifion, e.e. newid rhwymynnau, addysg Tinzaparin, techneg aseptig.
Adnabod sefyllfaoedd brys ac argyfyngus, ac ymateb yn briodol iddynt.
Sicrhau bod Hanfodion Gofal yn cael eu cynnwys mewn ymarfer dyddiol i sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel i ddefnyddwyr y gwasanaeth.
Sicrhau bod anghenion cleifion yn cael eu diwallu trwy weithio ar y cyd â gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill, yn enwedig mewn perthynas ag anghenion gofal parhaus.
Yn gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth i'w galluogi i ymarfer yn ei phroffesiwn, ac yn gweithredu'n unol â Chod Ymarfer Proffesiynol y Cyngor.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl adnoddau yn yr ardal yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau posibl.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Meini prawf dymunol
- Gradd mewn Nyrsio
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ôl-gofrestru.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd uniongyrchol, sy'n canolbwyntio ar y claf
- Diddordeb mewn meithrin sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol
- Rhoi arfer seiliedig ar dystiolaeth ar waith
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- David Hawkings
- Teitl y swydd
- Senior Nurse Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437774321
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Susan Charlton
Senior Sister Ward 11
01437 773311
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth