Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Adsefydlu
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Shifftiau dydd a nos yn ôl trefn rota – shifftiau 11.5 awr
Cyfeirnod y swydd
100-ACS175-0625-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri
Tref
Llanymddyfri
Cyflog
£23,970 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
13/07/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
22/07/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd

Gradd 2

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri yn uned adsefydlu/gofal lliniarol ac iddi 15 o welyau.  Mae'n darparu gofal o safon uchel i gleifion y mae arnynt angen cymorth adsefydlu gan staff Nyrsio a Therapi.

Rydym yn chwilio am unigolyn dibynadwy ac ymroddedig sy'n frwd dros ddarparu gofal i gleifion mewn amgylchedd cadarnhaol a phrysur. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddangos bod ganddo sgiliau cyfathrebu da a'i fod yn gweithio'n dda mewn tîm.

Mae'r oriau'n cynnwys nosweithiau, penwythnosau, a gwyliau banc.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd Band 2 sy'n llawn brwdfrydedd a chymhelliant. Byddech yn gweithio ochr yn ochr â thîm sefydledig.

Rydym yn dîm cyfeillgar a chefnogol sy'n darparu gofal o safon uchel a rhagoriaeth glinigol.

Byddwch yn gofalu bod y cleifion/cleientiaid yn cael safonau gofal diogel, unigol eu gogwydd ac effeithiol, a hynny trwy ddilyn cynlluniau gofal ac ymyriadau triniaeth, yn unol â chyfarwyddyd y nyrs gofrestredig.

Byddwch bob amser yn cyfathrebu mewn modd effeithiol ac ar y cyd ag aelodau eraill o'r tîm, gan gynnal a chyfrannu at athroniaeth y ward.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais. 

Cyfweliadau i'w cynnal ar 22/07/2025.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd  
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Lefel 2 mewn Gofal neu Yn gallu ymgymryd â chyfnod ymsefydlu a hyfforddiant yn y swydd a fydd yn cynnwys gwybodaeth ddamcaniaethol am ofal ac ystod o weithdrefnau cysylltiedig â gwaith, er enghraifft cwblhau llyfr gwaith seiliedig ar gymhwysedd sy'n cyfateb i gymhwyster galwedigaethol Lefel 2
  • Yn gallu deall a chydymffurfio â safonau ymsefydlu gorfodol a'r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster galwedigaethol Lefel 2 mewn pwnc perthnasol sy’n ymwneud â gofal iechyd

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio fel rhan o dîm
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o weithio gyda phobl mewn rôl gofalu

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Marlene Jones
Teitl y swydd
Senior Ward Sister
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01550 722200
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg