Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Asma
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR080-0426
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Sir Caerfyrddin
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/04/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Nyrs Arbenigol Asthma Rhyngwynebol
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am nyrs frwdfrydig, ofalgar ac ymroddedig i ymuno â thîm o Nyrsys Arbenigol Rhyngwyneb Asthma sy'n gweithio ar draws Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Lleolir y swydd hon yng nghlwstwr Llanelli, lle bydd yn cefnogi practisau gofal sylfaenol yr ardal, ond mae'n bosibl y bydd gofyn gweithio ledled y Bwrdd Iechyd. Bydd disgwyl hefyd i ddeiliad y swydd gefnogi'r Clinig Asthma Anodd yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Mae'r swydd yn un ran-amser, a hynny am 30 awr yr wythnos.
Bydd deiliad y swydd yn darparu rôl ddeuol trwy weithio ar draws y meysydd gofal sylfaenol ac eilaidd. Ym maes gofal sylfaenol bydd yn gweithio yng ngrŵp cleifion y gwasanaethau asthma i adolygu eu gofal a sicrhau ei fod yn bodloni canllawiau NICE.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi nyrsys y practisau mewn modd sy'n briodol i bob practis unigol. Gallai hyn olygu cefnogi datblygiad nyrs y practis neu weld y cleifion mwy cymhleth mewn clinig dynodedig yn achos rhai practisau.
Ym maes gofal eilaidd bydd yn cefnogi'r gwasanaeth asthma difrifol. Bydd y gefnogaeth hon yn cynnwys gweld cleifion ag asthma difrifol mewn clinig sydd dan oruchwyliaeth arweinydd y gwasanaeth asthma difrifol, a rheoli cleifion ar feddyginiaethau biolegol, gan gynnwys presgripsiynu meddyginiaethau biolegol ar gyfer y grŵp hwn.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn mynychu tîm amlddisgyblaethol asthma Cymru gyfan ac yn cyflwyno cleifion os oes angen, a bydd yn cychwyn therapi biolegol ar gyfer y cleifion hynny y tybir eu bod yn briodol. Gellir rhoi'r gorau i drin cleifion hefyd os nad ydynt yn bodloni meini prawf NICE.
Bydd cleifion a nodir mewn gofal sylfaenol yn rhai a ystyrir yn ymgeiswyr biolegol posibl yn cael eu trafod ag arweinydd y gwasanaeth asthma difrifol, a bydd ymchwiliadau'n cael eu cychwyn cyn cynnal adolygiadau yn y clinig.
Ar draws y rhyngwyneb bydd deiliad y swydd yn cefnogi datblygiadau arloesol o ran ymchwil anadlol.
Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd sicrhau bod cysylltiadau da rhwng gwasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd yn cael eu cynnal i gefnogi taith y claf asthma ar hyd ei lwybr gofal.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
-
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
-
Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
-
Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
-
47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
-
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 06/05/2026.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig Rhan 1 o Gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Yn meddu ar radd neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad perthnasol
- Presgripsiynydd anfeddygol
- Cwrs anadlol lefel uwch cydnabyddedig hyd at lefel Meistr
- Gwybodaeth arbenigol ym maes gofal anadlol ac ymarfer amlwg, yn enwedig Asthma
Meini prawf dymunol
- Tystysgrif Sbirometreg achrededig ARTP
- Hyfforddwr techneg anadlydd uwch
- Cymhwyster addysgu
- Cymryd rhan mewn rheoli newid
- Tystysgrif Arfer Clinigol Da ar gyfer ymchwil
- Gwaith cyhoeddedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestru perthnasol, gan gynnwys profiad ym maes gofal anadlol
- Defnyddio profion FENO yn rhan o asesiad y claf
Meini prawf dymunol
- Profiad o ofal sylfaenol ac eilaidd
- Profiad o ymgymryd ag archwiliadau, llunio adroddiadau a rhoi cyflwyniadau i grwpiau o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Joe Annandale
- Teitl y swydd
- Lead Respiratory Nurse Specialist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554783515
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Claire Hurlin Pennaeth Strategol y Gymuned a Chyflyrau Cronig [email protected]
Tel: 07805853577
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth




