Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cymunedol
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Penwythnosau yn ôl y gofyn)
Cyfeirnod y swydd
100-ACS138-0626
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Eastgate
Tref
Llanelli
Cyflog
£26,300 - £27,890 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
11/06/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
17/06/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweithiwr Cymorth Nyrsio (Cymunedol)

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi’n Weithiwr Cymorth Nyrsio sy’n chwilio am her newydd gyffrous neu gyfeiriad newydd? Mae Tîm Nyrsio Ardal Llanelli yn chwilio am ddau Weithiwr Cymorth Nyrsio llawn-amser i ymuno â’r tîm.

 Mae gan Dimau Nyrsio Cymunedol/clinig coesau cymunedol Llanelli ystod eang o sgiliau nyrsio, ac maent yn ymfalchïo mewn cefnogi datblygiad proffesiynol a gwella safonau uchel o ymarfer cymunedol yn unol â’r polisïau iechyd cyfredol.

 Mae’r swyddi parhaol hyn yn cael eu gweithio dros gyfnod o 7 diwrnod rhwng 9am a 5pm gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc, gyda newid posibl yn ôl angen y gwasanaeth. 

 Bydd angen i ddeiliaid y swyddi allu teithio rhwng safleoedd mewn modd amserol.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliaid y swyddi yn sicrhau bod gofal unigol ei ogwydd ac o safon uchel yn cael ei ddarparu i gleifion a’u teuluoedd a’u gofalwyr yn amgylchedd y cartref, a hynny trwy ddilyn cynlluniau gofal ac ymyriadau triniaeth fel y’u dirprwyir gan y nyrs gofrestredig. Byddant hefyd yn meddu ar y gallu i weithio’n gymwys heb oruchwyliaeth uniongyrchol. 

Mae’r rôl yn cynnwys gweithio gyda’r tîm nyrsio ardal a chefnogi cleifion sy’n gaeth i’r tŷ er mwyn darparu’r gofal gartref.

Cefnogi nyrs y clinig coesau i reoli gofal clwyfau ar gyfer y cleifion sy’n mynd i’r clinig. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Cyfweliadau i'w cynnal ar 17/06/2026

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc cysylltiedig â gofal iechyd Neu  Brofiad cyfatebol a bydd yn gallu dangos tystiolaeth o gymhwysedd seiliedig ar waith ac arddangos gwybodaeth ddamcaniaethol. Bydd yn gallu cyflawni dyletswyddau gofal clinigol sy'n berthnasol i'r rôl a enillir drwy brofiad a hyfforddiant seiliedig ar waith/cyrsiau byr
  • Gwybodaeth am y Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru a Chanllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan (AaGIC)
  • Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau perthnasol yn y lleoliad gofal iechyd er enghraifft egwyddorion Diogelu oedolion/plant i gadw cleifion yn eu gofal yn ddiogel. Hefyd cyfrinachedd er enghraifft y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol, a darparu gofal uniongyrchol i gleifion
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio gyda grwpiau cleifion sy'n berthnasol i faes yr ymarfer
  • Profiad o weithio yn y GIG.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Andree Richards
Teitl y swydd
District Nurse Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07790978470
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg