Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Deintyddol
Gradd
Band 6
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Dydd Llun, Dydd Iau & Dydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
100-PST013-0226-B
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Elizabeth Williams Clinig
Tref
Llanelli
Cyflog
£40,559 - £48,841 pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/11/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Therapydd Deintyddol Cymunedol

Band 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am Therapydd Deintyddol Cymunedol ymroddedig i ymuno â'n Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle ystyrlon i ddarparu gofal deintyddol o safon, sy'n canolbwyntio ar atal, i blant, pobl ifanc, ac aelodau o'r gymuned sy’n agored i niwed.

Prif safle’r swydd fydd Clinig Elizabeth Williams, Llanelli, gan ddarparu canolfan glinigol sefydlog. Wedi dweud hynny, efallai y bydd disgwyl darparu gofal yn achlysurol mewn lleoliadau cymunedol ledled yr ardal, gan gefnogi gwasanaethau allgymorth a gwella mynediad i'r rhai â’r angen mwyaf.

Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth wella canlyniadau iechyd y geg trwy ofal sy'n canolbwyntio ar y claf, ymyriad cynnar, ac addysg, gan weithio'n agos gyda deintyddion a nyrsys deintyddol yn rhan o dîm amlddisgyblaethol. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn cael ei ysgogi gan leihau anghydraddoldeb ym maes iechyd y geg, yn hyderus mewn ymarfer clinigol annibynnol, ac wedi ymrwymo i ddarparu gofal tosturiol, proffesiynol ar draws lleoliadau amrywiol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gwneud y canlynol:

· Cymhwyso gwybodaeth am lwybrau cleifion deintyddol cymunedol i ddarparu gofal diogel, effeithiol ac arfer gorau o fewn y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol.

· Gweithio dan drefniadau Mynediad Uniongyrchol ac yn unol â Chyfarwyddebau Grŵp Cleifion y Bwrdd Iechyd.

· Cadw at God Ymddygiad y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, safonau proffesiynol, moeseg y tîm deintyddol, a bodloni’r holl ofynion DPP craidd.

· Datblygu, cynnal ac adolygu cynlluniau triniaeth cywir a chynhwysfawr, gan sicrhau bod gofal yn parhau i fod o fewn cwmpas ymarfer y Cyngor Deintyddol Cyffredinol ac wedi'i deilwra i anghenion cleifion unigol.

· Cynnal asesiad parhaus o gleifion, gan gynnwys cydsyniad, hanes meddygol a chymdeithasol, a diweddaru systemau clinigol yn ôl y gofyn.

· Defnyddio barn broffesiynol i addasu cynlluniau triniaeth yn ôl yr angen, gan gynnwys darparu triniaeth ychwanegol o fewn y cwmpas ymarfer a ganiateir i gyflawni'r canlyniadau clinigol gorau posibl.

· Darparu cyngor ataliol clir ac effeithiol, gan gynnwys cyfarwyddyd hylendid y geg a chwnsela deietegol.

· Cadw cofnodion cleifion cywir, amserol a chyfrinachol yn unol â pholisïau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a gofynion y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.

· Cyfrannu'n gadarnhaol at ddull tîm o ddarparu gofal, gan gefnogi gwell mynediad at wasanaethau deintyddol a hyrwyddo cydraddoldeb iechyd y geg ar draws y gymuned.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 97 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cynhelir y cyfweliadu ar 30/11/2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd/Diploma mewn Therapi a Hylendid Deintyddol
  • Tystysgrif ôl-raddedig mewn o leiaf un ddyletswydd estynedig ym maes therapi deintyddol (e.e. Hybu iechyd, anghenion arbennig, radiograffeg, tawelyddu)
  • Cofrestriad gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol
  • Gwybodaeth am gyfarpar deintyddol arbenigol a'r cyfrifoldebau cyfreithiol cysylltiedig
  • Gwybodaeth am Lywodraethu Clinigol ac am gymryd rhan mewn Archwiliadau
  • Yn gyfarwydd â phrosesau cynnal bywyd sylfaenol, technegau dadebru, a rheoli argyfyngau meddygol
  • Dealltwriaeth o'r tueddiadau cenedlaethol sy'n berthnasol i asesu ac ymyriadau ym maes gwella iechyd clinigol ac iechyd y geg
Meini prawf dymunol
  • Ymwybyddiaeth o feini prawf cleientiaid y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol a'i rôl
  • Gwybodaeth am Ymarfer Deintyddol Cyffredinol a Gwasanaethau Ysbyty
  • Cymhwysedd i weithredu dan Fynediad Uniongyrchol
  • Gwybodaeth am raglenni'r fenter iechyd y geg
  • Yn gallu cwblhau hyfforddiant ôl-raddedig ar dawelyddu trwy anadlu i mewn i alluogi i ofal deintyddol gyda thawelydd gael ei ddarparu

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad clinigol mewn amgylchedd cartref, uned ddeintyddol symudol neu leoliad ysgol
  • Rheoli grwpiau cleifion cymhleth
  • Profiad o flaenoriaethu anghenion clinigol
  • Tystiolaeth o weithio mewn tîm amlasiantaethol
  • Asesu risgiau mewn perthynas â rheoli cleifion
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio o fewn cylch gwaith Mynediad Uniongyrchol
  • Profiad o weithio mewn gwasanaeth deintyddol yn yr ysbyty, yn y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol neu mewn Practis Deintyddol Cyffredinol

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
  • Yswiriant Indemniad Proffesiynol
  • Y gallu i gario cyfarpar ar gyfer ymweliadau â chartrefi, er enghraifft cadair ddeintyddol, golau cludadwy, cyfarpar argyfwng meddygol, diffibriliwr, silindr ocsigen, ac uned sugno gludadwy
  • Y gallu i gynorthwyo i symud cleifion yn unol â pholisïau codi a chario
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Aisha Tahir
Teitl y swydd
Senior Dental Officer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg