Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Diabetes
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Dydd a Nos i gwmpasu gwasanaeth 24 awr)
Cyfeirnod y swydd
100-ACS055-0326
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Tywysog Philip
Tref
Llanelli
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
11/03/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
24/03/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweithiwr Cymorth Nyrsio

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae Ward 5 yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn chwilio am Weithwyr Cymorth Nyrsio Band 3 i ymuno â'n tîm ymroddedig ar ward Diabetes ac Endocrin brysur ac iddi 26 o welyau. Mae hon yn rôl allweddol o ran darparu gofal tosturiol o ansawdd uchel i gleifion ag ystod eang o gyflyrau endocrinaidd acíwt a chronig, gan gynnwys rheoli diabetes cymhleth.

Rydym yn chwilio am unigolion tosturiol, llawn cymhelliant, sy'n ymrwymedig i ddarparu gofal diogel sy'n canolbwyntio ar y claf ac i gefnogi pobl trwy deithiau iechyd sy'n aml yn heriol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda nyrsys cofrestredig a'r tîm amlddisgyblaethol 
ehangach i gynnal amgylchedd therapiwtig, hybu annibyniaeth cleifion, a chynnal urddas a pharch bob amser.

Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys cynorthwyo gyda thasgau clinigol, monitro cleifion, cefnogi gweithgareddau bywyd bob dydd, a chyfrannu at sicrhau dogfennaeth gywir a dulliau cyfathrebu effeithiol. Byddwch hefyd yn chwarae rhan weithredol yn addysg cleifion, yn enwedig mewn perthynas â hunanreoli diabetes.

Mae'r rôl hon yn ddelfrydol i rywun sy'n rhagweithiol, yn drefnus ac yn awyddus i ddatblygu ei sgiliau clinigol. Byddwch yn cael cyfleoedd i ehangu eich gwybodaeth am ofal diabetes, anhwylderau endocrinaidd, a thriniaethau arbenigol, a hynny wrth weithio mewn tîm cefnogol a dynamig. 

Bydd yna ofyniad i gyflenwi ar gyfer gwasanaeth 24 awr i gleifion yn yr ardal glinigol. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Mae Gweithiwyr Cymorth Nyrsio Band 3 yn darparu gofal uniongyrchol i gleifion, gan gynorthwyo unigolion gyda golchi, gwisgo, mynd i'r toiled, symudedd, a'r defnydd diogel o gyfarpar.
  • Maent yn helpu i gynnal cysur, urddas, annibyniaeth, a llesiant y claf trwy gydol ei arhosiad.
  • Maent yn cyflawni tasgau clinigol dirprwyedig, megis cymryd a chofnodi arsylwadau, monitro lefelau siwgr gwaed, cynnal profion wrin, casglu sbesimenau, cynnal profion ECG os ydynt wedi'u hyfforddi, a darparu gofal clwyfa syml dan oruchwyliaeth.
  • Maent yn rhoi gwybod i staff yn brydlon am unrhyw newidiadau i gyflwr y claf.
  • Maent yn gweithio'n agos gyda'r tîm amlddisgyblaethol i gefnogi derbyniadau, trefniadau rhyddhau, a llif cyffredinol y cleifion, gan hefyd helpu i gynnal amgylchedd diogel, glân, a threfnus ar y ward.
  • Maent yn cofnodi gofal yn gywir ac yn cyfathrebu'n glir â chleifion, perthnasau, a chyd-weithwyr.
  • Maent yn cyfrannu gwybodaeth berthnasol wrth drosglwyddo cleifion, a hynny o fewn cwmpas eu hymarfer.
  • Maent yn cefnogi addysg cleifion trwy atgyfnerthu'r wybodaeth a ddarperir gan nyrsys cofrestredig ac annog cleifion i ddeall ac ymgysylltu â'u gofal eu hunain.
  • Maent yn dilyn gweithdrefnau rheoli heintiau, yn cynnal glendid, ac yn uwchgyfeirio unrhyw bryderon ynghylch diogelwch.
  • Maent yn cymryd rhan mewn hyfforddiant gorfodol, yn datblygu eu sgiliau clinigol, ac yn cyfrannu at wella ansawdd trwy ymarfer myfyriol.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 24/03/2026.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc cysylltiedig â gofal iechyd Neu Brofiad cyfatebol a bydd yn gallu dangos tystiolaeth o gymhwysedd seiliedig ar waith ac arddangos gwybodaeth ddamcaniaethol. Bydd yn gallu cyflawni dyletswyddau gofal clinigol sy'n berthnasol i'r rôl a enillir drwy brofiad a hyfforddiant seiliedig ar waith/cyrsiau byr
  • Gwybodaeth am y Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru a Chanllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan (AaGIC)
  • Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau perthnasol yn y lleoliad gofal iechyd er enghraifft egwyddorion Diogelu oedolion/plant i gadw cleifion yn eu gofal yn ddiogel, a chyfrinachedd er enghraifft y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol, gan ddarparu gofal uniongyrchol i gleifion
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio gyda grwpiau cleifion sy'n berthnasol i faes yr ymarfer
  • Profiad o weithio yn y GIG

Sgiliau iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Melanie Richards
Teitl y swydd
Senior Sister
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01554 783105
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Melanie Richards

01554 783105

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg