Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Stroc
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS039-0226
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 19/02/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 27/02/2026
Teitl cyflogwr
Gweithiwr Cymorth Nyrsio
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymorth Nyrsio dynamig a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm ymroddedig ar Ward 9 yn Ysbyty'r Tywysog Philip.
Strôc yw prif achos marwolaeth ac anabledd yn y DU, gyda mwy o bobl iau yn profi strôc am y tro cyntaf o gymharu â deng mlynedd yn ôl (Llywodraeth y DU, 2018). Gall strôc fod yn ddigwyddiad a fydd yn newid bywyd y claf a'i deulu.
Mae ein Huned Strôc sefydledig yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn cynnwys pum gwely strôc acíwt mewn uned ar wahân, ynghyd â 24 o welyau adsefydlu. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r gofal gorau nid yn unig i'n cleifion ond hefyd i'w teuluoedd, gan eu cefnogi trwy'r hyn a all fod yn ddigwyddiad sy'n newid bywyd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae cyfle i ddysgu sgiliau newydd a chael mwy o brofiad yn gofalu am bobl sydd yn sâl iawn tra'n datblygu'n broffesiynol yn y cyfnodau cadarnhaol ac heriol hyn. Bydd y rôl hon yn gofyn i chi wneud arsylwadau clinigol a ddirprwywyd ac i gyfathrebu'n effeithiol.
Mae'r wardiau yn gweithredu patrymau shifftiau amrywiol i gyd-fynd ag anghenion y gwasanaeth gan gynnwys rota o ddyddiau/nosweithiau.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 97 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 27/02/2026
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc sy'n gysylltiedig â gofal iechyd NEU brofiad cyfatebol, ac yn gallu dangos tystiolaeth o gymhwysedd seiliedig ar waith ac amlygu gwybodaeth ddamcaniaethol, ynghyd â'r gallu i ymgymryd â dyletswyddau gofal clinigol sy'n berthnasol i'r rôl a ddatblygwyd trwy brofiad a hyfforddiant seiliedig ar waith/cyrsiau byr
- Gwybodaeth am y Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru a Chanllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Dirprwyo (AaGIC)
- Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau perthnasol mewn lleoliadau gofal iechyd, er enghraifft egwyddorion diogelu oedolion/plant i gadw cleifion yn ddiogel yn eu gofal, a chyfrinachedd, er enghraifft y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Application form and interview
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol, gan ddarparu gofal uniongyrchol i gleifion
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda grwpiau o gleifion sy'n berthnasol i'r maes ymarfer
- Profiad o weithio yn y GIG
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Medru gweithio amrywiaeth o sifftiau
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Emily Jenkins
- Teitl y swydd
- Senior Sister
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 783311
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth




