Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cymuned
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR251-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty De Sir Benfro
- Tref
- Doc Penfro
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 20/08/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 03/09/2025
Teitl cyflogwr

Prif Nyrs Gymunedol
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i ddwy Brif Nyrs Band 6 barhaol ymuno â Thîm Nyrsio Ardal Penfro sydd wedi'u lleoli naill ai yn Noc Penfro neu Sgwâr Manceinion. Rhaid i'r ymgeiswyr feddu ar brofiad cymunedol blaenorol, a rhaid eu bod eisoes wedi ymgymryd â'r Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol (SPQ) mewn Nyrsio Ardal.
Mae hon yn rôl heriol sy'n gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfuno ymarfer clinigol rhagorol â'r gwaith o gydlynu shifftiau o ddydd i ddydd, yn ychwanegol at ymgymryd â chyfrifoldebau arwain a rheoli i gefnogi Arweinydd y Tîm Nyrsio Ardal. Bydd yn ofynnol i chi ddirprwyo'n ffurfiol yn absenoldeb yr Uwch-brif Nyrs/Arweinydd y Tîm Nyrsio Ardal.
Mae hon yn swydd lawn-amser barhaol am 37.5 awr yr wythnos, a hynny am bum niwrnod yr wythnos dros gyfnod o saith niwrnod, yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc. Bydd angen i ddeiliad y swydd allu teithio rhwng safleoedd mewn modd amserol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd asesu anghenion gofal a datblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglenni gofal heb oruchwyliaeth. Sicrhau bod gofal o safon uchel yn cael ei ddarparu i gleifion a'u teuluoedd/gofalwyr yn amgylchedd y cartref/clinig.
Dirprwyo'r broses o ddarparu gofal, lle bo hynny'n briodol, yn unol â fframwaith dirprwyo GIG Cymru. Goruchwylio'r broses o ddarparu gofal, ynghyd â'r staff sy'n ymwneud â hynny.
Sicrhau bod yr agweddau corfforol, seicolegol, cymdeithasol, ysbrydol a sylfaenol ar anghenion gofal y claf yn cael eu bodloni.
Bod yn hygyrch yn y gymuned i'r tîm nyrsio a'r tîm amlddisgyblaethol ehangach, i gleifion ac i ddefnyddwyr y gwasanaeth ym meysydd gofal sylfaenol ac eilaidd.
Mynd ati'n barhaus i gefnogi a gweithio ar y cyd â'r Uwch-brif Nyrs, a dirprwyo'n ffurfiol yn ei habsenoldeb.
Delio â sefyllfaoedd clinigol a rheolaethol cymhleth sy'n codi, gan ddadansoddi'n feirniadol, ceisio cymorth priodol, a gwneud penderfyniadau mewn perthynas â risgiau i gleifion a'u gofal.
Gofyn am cyngor priodol/rhoi gwybod i asiantaethau pan fydd yna unrhyw bryderon ynglŷn â risg bosibl/wirioneddol i unrhyw glaf neu ei ddibynyddion, e.e. diogelu plant, trais domestig, amddiffyn yr oedolyn agored i niwed, gallu meddyliol ac amddifadu o ryddid.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o
- fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Sicrhau bod trefniadau diogel ac effeithiol o ran cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion yn ffurfio rhan greiddiol o'r broses o gynllunio a darparu gofal o adeg yr asesiad cychwynnol, gan roi ystyriaeth i'r ffactorau cyfrannol sy'n dylanwadu ar ryddhau cleifion yn ddiogel, yn cynnwys atgyfeiriadau at ofal sylfaenol a gwasanaethau cefnogol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 03/09/2025.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig (Rhan 1)
- Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gradd Baglor (neu brofiad cyfatebol)
- Diploma ôl-raddedig perthnasol (neu ddatblygiad/brofiad cyfatebol, a pharodrwydd i ymgymryd â gwaith astudio priodol ar lefel ôlraddedig. D.S. Mae Dyfarniad Ymarfer Arbenigol mewn Nyrsio Ardal yn ofynnol ar gyfer swydd Nyrsio Ardal)
- IQT Efydd
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu (neu brofiad cyfatebol)
- Cymhwyster rheoli cydnabyddedig
- Nyrs-bresgripsiynydd gymunedol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad priodol yn y gymuned/yn eich arbenigedd, ac yn gallu amlygu gwybodaeth gadarn
- Y gallu i amlygu gwybodaeth gadarn am God y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2015)
- Profiad o weithio mewn amgylchedd amlbroffesiynol
- Profiad o redeg ward/maes/adran
- Profiad o weithio gyda myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth cyn-gofrestru
- Profiad o addysgu a mentora myfyrwyr nyrsio neu fyfyrwyr bydwreigiaeth cyn-gofrestru, a hynny mewn modd ffurfiol/anffurfiol
- Dealltwriaeth o'r agenda ehangach mewn perthynas â nyrsio a gofal iechyd
- Sgiliau TG
- Sgiliau rheoli goruchwyliol
- Y gallu i roi theori ar waith trwy sgiliau myfyriol
Meini prawf dymunol
- Profiad o gydgysylltu tîm
- Profiad o hwyluso dysgu yn ystod ymarfer, ac o ganlyniad iddo
- Profiad blaenorol o arwain a rheoli
- Ymwybyddiaeth o faterion cyfredol ym maes nyrsio ac yn eich arbenigedd
- Ymwybyddiaeth o reolaeth ariannol a rheoli adnoddau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kellie-Marie John
- Teitl y swydd
- District Nurse Team Lead, Pembroke District Nurses
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 0300 4305182
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth