Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Improvement / 6 Goals
Gradd
Band 6
Contract
Secondiad: 9 mis (Until 31st March 2026 due to external funding)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Mon-Fri 7.5 hours per day. May be requirement to work some weekends.)
Cyfeirnod y swydd
110-AC053-0425-B
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Multi-site Cwm Taf Morgannwg University Health Board
Tref
Ynysmaerdy
Cyflog
£37,898 - £45,637 per annum
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/08/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg logo

Improvement Facilitator Optimise

Band 6

Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTM).

Wedi'i leoli yng nghanol De Cymru, rydym yn dafliad carreg i ffwrdd o Gaerdydd, Casnewydd ac Abertawe. Wedi'i wreiddio'n ddwfn yn ein cymuned, fel sefydliad GIG rydym yn ymroddedig i ddarparu gofal cleifion tosturiol ac adeiladu cymunedau iachach gyda'n gilydd.

Yn CTM, byddwch yn rhan o dîm cefnogol o genhedloedd, diwylliannau a chefndiroedd amrywiol. Mae pob rôl yn cyfrif, mae pob person yn bwysig, a gyda'n gilydd, rydym yn creu lle lle gall pawb ffynnu.

Darganfyddwch fwy am weithio gyda ni yma:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Ymunwch â CTM

Hafan - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi'n nyrs sy'n barod i fynd â'ch gyrfa i'r lefel nesaf? Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i ofal cleifion a dylanwadu ar newid ar draws y system? 

Mae Optimeiddio yn trawsnewid sut rydym yn darparu gofal ar draws BIP Cwm Taf Morgannwg—ac rydym yn chwilio am unigolyn angerddol, sy'n canolbwyntio ar bobl i ymuno â'n tîm fel Hwylusydd.

Mae’r rôl Band 6 hon yn cael ei chynnig fel cyfle secondiad tan 31 Mawrth 2026, wedi'i lleoli yn YBG gyda theithio'n ofynnol o amgylch safleoedd, mae yna hefyd rai cyfleoedd i weithio o gartref. (Os ydych chi'n gweithio o fewn y GIG ar hyn o bryd, rhaid i chi gael caniatâd gan eich rheolwr llinell presennol cyn gwneud cais am y secondiad hwn.)  Yr oriau yw dydd Llun – dydd Gwener 9-5, gyda rhywfaint o waith penwythnos yn ofynnol, ond os nad yw hyn yn addas i chi, rydym yn hapus i drafod opsiynau hyblyg. 

Pam ymuno ag Optimeiddio?

Dyma eich cyfle i:

  • Camu i rôl arweinyddiaeth sy'n cyfuno mewnwelediad clinigol ag effaith strategol.
  • Ysgogi newid ystyrlon yn llif y cleifion, cynllunio rhyddhau cleifion, ac effeithlonrwydd ar lefel ward.
  • Bod yn rhan o raglen sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau GIG Cymru 2024 ac sy’n cael ei chefnogi gan The Dragon’s Heart Institute: Optimeiddio: Lledaenu Gwelliant Gofal Brys ac Achosion Brys - Dragon Heart Institute
  • Datblygu eich sgiliau mewn gwella ansawdd, arweinyddiaeth weithredol ac ailgynllunio systemau.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Fel Hwylusydd Optimeiddio, byddwch yn gweithio'n agos gyda thimau clinigol, uwch reolwyr ac arweinwyr gweithredol i:

  • Hyfforddi a chefnogi timau wardiau i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd, gan ryddhau mwy o amser i ofalu.
  • Hyrwyddo cynllunio rhyddhau sy'n canolbwyntio ar y claf, gan gymhwyso egwyddorion Optimeiddio Llif Ysbyty o'r adeg y maen nhw’n cael eu derbyn.
  • Ysbrydoli timau i ganolbwyntio ar beth sydd bwysicaf i gleifion ac atal datgyflyru.
  • Cefnogi'r Nyrs Arweiniol Optimeiddio i feithrin gallu GA ar draws y sefydliad.
  • Dylanwadu ar welliannau ar raddfa fawr sy'n cyd-fynd â'r 6 Nod ar gyfer Gofal Brys ac Achosion Brys.
  • Cyfrannu at gynllun cyflawni cenedlaethol sy'n llunio gofal ledled Cymru a thu hwnt.

Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm cefnogol sy'n cydweithio â chlinigwyr, uwch reolwyr, a thimau gweithredol i yrru gwelliant ac ailgynllunio gwasanaethau yn ei flaen. Drwy hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus, byddwch yn herio arferion presennol, yn dileu aneffeithlonrwydd, ac yn gwella llif cleifion a chanlyniadau. Gan bartneru â thimau amlddisgyblaethol, byddwch yn ymgorffori llwybrau rhyddhau cynaliadwy ac yn cymhwyso polisïau cenedlaethol a lleol gyda dull beirniadol, parchus ac arloesol.

Eisiau gwybod mwy am y rôl? Os ydych chi'n meddwl am hyblygrwydd, oriau gwaith, neu os ydych chi eisiau archwilio a yw'r cyfle hwn yn addas i chi, mae croeso i chi gysylltu ag Emily Adams drwy [email protected], am sgwrs anffurfiol.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn rhan o deulu GIG Cymru. Mae ein Bwrdd Iechyd yn darparu gofal iechyd sylfaenol, eilaidd a chymunedol ynghyd â gwasanaethau lles i tua 450,000 o bobl sy’n byw mewn tair sir: Pen-y-bont ar Ogwr, Merthur Tydful a Rhondda Cynon Taf.

Rydyn ni’n byw yn ôl ein gwerthoedd craidd:

  • Rydyn ni’n gwrando, yn dysgu ac yn gwella
  • Rydyn ni’n trin pawb â pharch
  • Rydyn ni i gyd yn gweithio fel un tîm

Rydyn ni’n gyflogwr lleol balch; mae tua 80% o’n gweithlu o 15,000 yn byw o fewn ein rhanbarth. O ganlyniad, nid enaid y sefydliad yn unig y mae ein staff yn ei gynrychioli, ond y cymunedau amrywiol rydyn ni’n eu gwasanaethu.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch Ymgeisiwch nawr i'w gweld yn Trac. 

Manyleb y person

Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Professional knowledge acquired through Nursing, Occupational Therapy, Physiotherapy Degree or equivalent experience or training.
  • Evidence of quality improvement practice within professional or voluntary roles, plus further staff or project management knowledge
Meini prawf dymunol
  • Knowledge and experience of optimal hospital flow principles and policies
  • Digital and data management, practice, storage and analysis and interrogation

Skills

Meini prawf hanfodol
  • Good written and verbal communication skills with all levels of staff including report writing and presentation of information
  • Ability to manage multiple projects/work priorities simultaneously
Meini prawf dymunol
  • A flexible personal and management style

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Advanced coaching and facilitating skills
  • Have a high degree of personal initiative in carrying out duties
Meini prawf dymunol
  • Ability to demonstrate discretion

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Age positiveDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddAccredited Living Wage EmployerWelsh logo for Armed Force Bronze Award for Cym Taf UHBAccredited Living Wage EmployerCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Emily Adams
Teitl y swydd
Improvement Programme Lead Nurse (Optimise)
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg