Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ddeintyddol
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol: Dydd Llun i Ddydd Gwener
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 070-AC108-0926
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Aberhonddu
- Tref
- Aberhonddu
- Cyflog
- £26,300 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 17/09/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Gweinyddol Deintyddol
Gradd 2
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Trosolwg o'r swydd
Mae yna gyfle newydd ar gyfer Cynorthwyydd Gweinyddol i ddarparu cymorth cynhwysfawr, desg flaen/ gweinyddol i'r adran ddeintyddol yn Aberhonddu. Mae'r swydd hon yn barhaol am 37.5 awr yr wythnos. Fodd bynnag, byddai rhan-amser yn cael ei ystyried.
Bydd deiliad y swydd yn gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i'r adran a bydd yn gyfrifol am amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol a chlerigol, gan gynnwys rheoli galwadau sy'n dod i mewn, ymholiadau a threfnu apwyntiadau cleifion.
Bydd angen i ddeiliad y swydd fod â sgiliau trefnu ardderchog a bydd gofyn iddynt ddangos llythrennedd cyfrifiadurol priodol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rheoli galwadau ffôn ac ym holiadau sy’n dod i mewn, a allai fod yn gymhleth ac yn sensitif eu natur, cymryd negeseuon yn fanwl gywir, eu hanfon ymlaen yn brydlon a sicrhau cyfrinachedd.
Ymgymryd â dyletswyddau clercaidd ar ffurf derbyn cleifion a nodi pan maen nhw wedi cyrraedd a chofnodi manylion cleifion. Adalw cofnodion blaenorol cleifion sy’n mynychu i gael triniaeth ddeintyddol, gan ddefnyddio meddalwedd ddeintyddol EXACT.
Cyfathrebu â chleifion i sicrhau bod hanes meddygol, ffurflenni cydsynio ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall sydd eu hangen yn cael eu llenwi pan y mae cleifion yn cyrraedd.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i swydd ddisgrifiad llawn a manyleb y person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol.
Byddem yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg yn arbennig; ond hyd yn oed os nad ydych chi'n siarad unrhyw Gymraeg, neu os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau, peidiwch â phoeni: bydd y bwrdd iechyd yn eich cefnogi gyda hyfforddiant.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Educated to GCSE level or literacy/numeracy L1 or equivalent
- RSA/OCR II qualification or equivalent demonstratable skills
- Computer literate and experience of using microsoft packages
Meini prawf dymunol
- Some knowledge of the Community Dental Service
Experience
Meini prawf hanfodol
- Experience of customer service first point of contact support
- Experience of working as part of a team, or on own initiative
- Experience of prioritising own workload and meeting deadlines
Meini prawf dymunol
- Previous experience in similar post
Aptitudeand Abilities
Meini prawf hanfodol
- Ability to communicate clearly and effectively, face to face and by telepone
- Excellent organisational skills
- Ability to use initiative to defuse difficult situations involving patients
Meini prawf dymunol
- Some ability to speak, read and/or write Welsh, or an eagerness to learn.
Values
Meini prawf hanfodol
- Ability to support and demonstrate PTHB values and behaviours
Other
Meini prawf hanfodol
- Flexible in approach to work and the changing needs of colleagues and the service
- Undertake training and personal development as required
- Ability to travel across PTHB sites
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jacqui Bennett
- Teitl y swydd
- Senior Dental Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07754452313
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a Bydwreigiaeth






