Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Lymphoedema
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Secondiad: 12 mis (Secondment for 12 months due to maternity cover)
- Oriau
- Rhan-amser - 18.75 awr yr wythnos (08:30am-16:30pm 5 days a week.)
- Cyfeirnod y swydd
- 070-ACS053-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- North Powys (Base to be confirmed)
- Tref
- Newtown
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 22/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Cymunedol
Gradd 3
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM SECONDIAD AM 12 MIS OHERWYDD CYFNOD MAMOLAETH.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, byddwch yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gofal lymffoedema i gleientiaid o fewn lleoliad clinigol a/neu amgylchedd cartref, fel rhan o dîm a than gyfarwyddyd Nyrs Gofrestredig.
Mae ein blaenoriaethau o fewn y tîm yn canolbwyntio ar:
Gofalu gyda dynoliaeth, urddas, caredigrwydd a thosturi
Darparu gofal diogel, effeithiol, di-niwed
Gwrando ar gleifion a gofalwyr a gwella'r ffordd rydym yn gweithio
Ar hyn o bryd ni allwn ddarparu tystysgrifau nawdd ar gyfer y rôl hon gan nad yw’n bodloni meini prawf y Swyddfa Gartref. Felly ni all unrhyw un sydd angen tystysgrif nawdd gael ei roi ar y rhestr fer na chael ei gyfweld
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae hwn yn gyfle delfrydol i Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd sy'n ceisio ehangu a defnyddio ei ystod o sgiliau a gwybodaeth fel rhan o dîm amlddisgyblaethol. Bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gofal medrus, ymreolaethol i gleifion.
Mae’r swydd hon yn galw am weithio ar eich pen eich hun ac mae’n hanfodol gallu teithio’n annibynnol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Meets all essential criteria
- Gweithio o fewn amgylchedd amlddisgyblaeth ac amlasiantaeth
Meini prawf dymunol
- Meets all desirable criteria
Qualifications and/or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- NVQ3 in Health or Social Care or equivalent demonstrable experience in a Health or Social Care setting
Meini prawf dymunol
- ECDL or equivalent level of computer skills
- To be aware of the needs of the patients and their relatives/carers and have knowledge of voluntary and statutory services
Doniau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Meets all essential criteria
- Gallu dangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da,
- Ability to work within a multidisciplinary team
- Ability to manage stressful situations in self
- Ability to travel between sites in a timely manner
- Can explain the importance of care monitoring, audit and evaluation of fundamentals of care
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
- Good time management and ability to prioritise
- Ability to work alone under the supervision of Clinical Lead
- Able to undertake extended tasks as required by the Clinical Lead
Values
Meini prawf hanfodol
- Can demonstrate an understanding of Health and Safety issues
Other
Meini prawf hanfodol
- Flexible approach to the needs of the service
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Eleri Tossell
- Teitl y swydd
- Lymphoedema Clinical Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07754 452291
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Office -01639 846423
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a Bydwreigiaeth