Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Iechyd Meddwl
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (37.5 awr yr wythnos. Gweithio 8am-6pm 4 diwrnod yr wythnos i gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-HMP-NMR009-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- CEM Berwyn
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flyddwyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 28/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Uwch Nyrs Iechyd Meddwl - CEM Berwyn
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Bydd gofyn i ddeilydd y swydd weithio mewn Tîm Amlddisgyblaethol integredig gan ganolbwyntio ar oedolion sy'n dioddef o ystod eang o broblemau iechyd meddwl.
Bydd deilydd y swydd yn dal llwyth gwaith ac yn gyfrifol am asesu anghenion cleifion, cynllunio a gweithredu'r cynllun gofal.
Bydd deilydd y swydd yn darparu goruchwyliaeth, arweiniad a chefnogaeth i aelodau staff iau.
Bydd deilydd y swydd yn fodel rôl ac yn adnodd i aelodau'r Tîm Iechyd Meddwl drwy barhau i ddatblygu arfer clinigol ac arbenigedd o ran ei gleientiaid ei hun. Sicrhau bod y staff yn gweithio yn unol â'u Codau Arfer Proffesiynol a'r safonau a ddisgwylir gan y Bwrdd Iechyd.
Gweithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaeth, cydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill a gwasanaethau yng Ngharchar y Berwyn a'r tu allan iddo, gan gynnwys staff Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi (HMPPS) fel bo'n briodol, i gyflawni'r canlyniadau iechyd gorau posibl i gleientiaid a chan gyfrannu at leihau llwybrau aildroseddu.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r gwasanaeth hwn yn rhoi cyfle i ddatblygu tîm integredig sy'n cynnig darpariaeth iechyd meddwl arbenigol i ddefnyddwyr gwasanaeth o fewn amgylchedd y ddalfa. Bydd hyn yn cynnwys llwythi achosion gofal iechyd meddwl sylfaenol ac eilaidd y byddant yn gweithio ochr yn ochr â nhw i lunio cynlluniau rheoli risg a chynllunio gofal yn seiliedig ar asesiad cadarn o angen. Cefnogir hyn gan ddull tîm amlddisgyblaethol.
Rydym yn dymuno penodi ymarferwyr deinamig a brwdfrydig sydd â diddordeb gwirioneddol mewn iechyd meddwl fforensig a chamddefnyddio sylweddau ac er bod profiad mewn lleoliad fforensig yn ddymunol, nid yw’n hanfodol.
Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm da sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i flaenoriaethu a rheoli eu hamser yn effeithiol.
Yn ogystal, rydym yn awyddus i ddatblygu gweithwyr a chynnig dilyniant rhagorol trwy amrywiol lwybrau gyrfa ac mewn cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus fel MSc mewn Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Sylwch os bydd eich cais yn llwyddiannus ac y cewch eich gwahodd i gyfweliad, cânt eu cynnal ar y safle yn CEF Berwyn er mwyn sicrhau bod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth am yr amgylchedd. Ni dderbynnir ceisiadau am gyfweliadau rhithiol.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- RMN sydd wedi cofrestru â'r NMC
- Tystiolaeth o ddatblygiad bersonol a phroffesiynol.
Meini prawf dymunol
- Profiad ym maes iechyd troseddwyr
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol ar ôl cofrestru mewn swyddi Band 5 (neu ar lefel gyfatebol).
- Profiad o asesu iechyd a lles defnyddwyr gwasanaethau, a chynllunio, cyflawni a gwerthuso gwasanaethau gan ymateb i anghenion cymhleth.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mikaila Letford
- Teitl y swydd
- Clinical co-occurring lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01978 523769
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth