Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Mental Health
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol: 37 awr y wythnos
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (37.5 hours per week, across 7 days)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-HMP-NMR002-0226
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- CEM Berwyn
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 25/02/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Uwch Nyrs Iechyd Meddwl - CEM Berwyn
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer ymarferydd profiadol, llawn cymhelliant a blaengar i ddarparu gofal arbenigol yn y maes camddefnyddio sylweddau o fewn yr amgylchedd carchar, gan weithio fel rhan o wasanaeth iechyd amlddisgyblaethol integredig.
Bydd disgwyl i chi ddarparu ystod o ymyriadau arbenigol ar lefel gofal sylfaenol, a hynny i gynnwys rheoli cyfeiriadau, cynnal asesiadau sgrinio, yn ogystal ag ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth drwy ddarparu sesiynau ar sail un i un a sesiynau sydd wedi'u hwyluso mewn grŵp tra’n rheoli llwyth achos cymysg a chymhleth.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd dyletswyddau’n cynnwys cynnal asesiadau, sgrinio ac ymyriadau cadarn i droseddwyr sydd â phryderon ynghylch camddefnyddio sylweddau a sicrhau bod yr holl amseroedd aros, asesiadau ac ymyriadau yn cael eu darparu’n brydlon, yn unol â Mesur Iechyd Meddwl Cymru.
Fel cydlynydd gofal penodol, bydd angen i chi fod yn rhagweithiol, gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth tuag at ymyriadau clinigol, gweithgareddau hybu iechyd a rheoli cyflyrau acíwt a hirdymor gan ddefnyddio dull gofal fesul cam.
Byddwch yn sicrhau gweithio integredig a chydweithredol gyda gwasanaethau arbenigol eraill, gan gynnwys gofal parhaus, gan gysylltu â thimau iechyd meddwl cymunedol i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu'n briodol. Yn ogystal, byddwch yn darparu adroddiadau cynhwysfawr ac amserol ac arbenigedd iechyd meddwl i baneli Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA), yr heddlu, gwasanaethau prawf, cyfreithwyr a thimau cyswllt llys yn ôl y cyfarwyddyd.
Mae perthnasau gwaith agos yn hanfodol gyda holl staff y carchar, ac mae hynny’n cynnwys cymryd rhan mewn prosesau cynllunio dedfryd, adsefydlu, carchar mwy diogel ac ACCT. Mae hefyd yn hanfodol cyfrannu at gymorth, cyngor, ymgynghoriad a hybu iechyd ar gyfer staff a chleifion.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Sylwer bod unrhyw gynnig cyflogaeth yn amodol ar gael gwiriad DBS a chliriad charchar llwyddiannus.
Sylwch os bydd eich cais yn llwyddiannus ac y cewch eich gwahodd i gyfweliad, cânt eu cynnal ar y safle yn CEF Berwyn er mwyn sicrhau bod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth am yr amgylchedd. Ni dderbynnir ceisiadau am gyfweliadau rhithiol.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Nyrs RMN sydd wedi Cofrestru â'r RMN.
- Tystiolaeth i gadarnhau datblygiad proffesiynol parhaus.
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant datblygu arweinwyr a rheolwyr.
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol ar ôl cofrestru ar Fand 5 neu uwch
- Profiad o waith cyswllt rhagweithio mewn amgylchedd iechyd a lles amlasiantaethol ac amlddisgyblaethol.
Meini prawf dymunol
- Profiad o fewn meysydd clinigol perthnasol ac amrywiol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Samantha Keane
- Teitl y swydd
- Deputy head of Healthcare
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01978 523132
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth






.png)
