Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Nyrsio
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (37.5 awr yr wythnos yn cwmpasu gwasanaeth 7 diwrnod i gynnwys penwythnosau a gwyliau banc)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR264-0426
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- CEM Berwyn
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £40,559 - £48,841 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/05/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Nyrs Camddefnyddio Sylweddau - CEM Berwyn
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086
Trosolwg o'r swydd
Fel nyrs camddefnyddio sylweddau, byddwch yn rheoli llwyth achosion clinigol o ddynion sy'n camddefnyddio sylwadau, gan sicrhau y darperir ymyriadau priodol (asesiadau a thriniaethau) ac y cytunir ar nodau CAMPUS.
Byddwch yn:
· Cynllunio, cyflawni a gwerthuso ymyriadau a/neu driniaethau pan fydd anawsterau cymhleth a/neu salwch difrifol. Trafod cynllun y driniaeth a'r anghenion cysylltiedig â defnyddiwr y gwasanaeth a'r tîm ehangach a byddwch yn deall eich rôl eich hun o ran cyflawni'r ymyriadau a/neu'r triniaethau yn y cynllun.
· Gweithio’n agos â’r tîm Gofal Sylfaenol, y tîm Iechyd Meddwl a’r holl ddarparwyr iechyd eraill i sicrhau y darperir gwasanaeth cwbl integredig.
· Nodi unrhyw ragofalon penodol neu unrhyw gyngor sy'n nodi na ddylid ymgymryd â'r ymyriadau/triniaethau arfaethedig ac yn gweithredu'n briodol.
· Cynorthwyo a monitro cleifion trwy gydol eu triniaeth, a hysbysu'r rheolwr llinell yn ddi-oed pan fydd newidiadau annisgwyl o ran iechyd a lles unigolion neu lefel y risg.
· Darparu gwybodaeth i dîm y Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau ynghylch unrhyw newidiadau yn anghenion unigolion a chynnig adborth ynghylch addasrwydd cynllun triniaeth yr unigolyn pan gyfyd unrhyw anawsterau.
· Ymateb i unrhyw ddigwyddiad andwyol yn ymwneud â'r ymyriad/triniaeth a chofnodi a rhoi gwybod am hynny, gan sicrhau y gweithredir yn ddi-oed fel y bo'n briodol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae sgiliau cyfathrebu da yn hollbwysig gan fod y rôl yn cynnwys rheoli defnyddwyr gwasanaeth yn uniongyrchol ar eu llwybr triniaeth. Bydd angen i chi ddarparu gwasanaeth cyfannol a sicrhau bod cynlluniau rheoli yn benodol ar gyfer anghenion unigolion a’u bod yn cael eu cyflwyno mewn ffordd ddealladwy i’r claf.
Bydd disgwyl i chi fynychu a chyfrannu mewn cyfarfodydd amlddisgyblaethol a chysylltu â thimau cymunedol, felly bydd sefydlu partneriaethau gweithio da gyda’r carchar a gwasanaethau cymunedol yn hanfodol.
Ein nod yw dynodi staff sydd â chred gryf mewn adferiad, ac mae’n bwysig bod gennych ddealltwriaeth dda o ofalu am gleifion o bob cefndir gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau i ddynodi ymddygiadau peryglus.
Byddwch yn ymuno â thîm sydd wedi ymrwymo i wella iechyd a lles cleifion o dan ein gofal felly bydd angen i chi fod agos-atoch, yn egnïol, yn wydn ac yn gallu addasu i amgylchedd sy'n newid yn barhaus.
Yn ogystal, rydym yn awyddus i ddatblygu gweithwyr a chynnig dilyniant rhagorol drwy wahanol lwybrau gyrfa.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Sylwer bod unrhyw gynnig cyflogaeth yn amodol ar gael gwiriad DBS a chliriad charchar llwyddiannus.
Sylwch os bydd eich cais yn llwyddiannus ac y cewch eich gwahodd i gyfweliad, cânt eu cynnal ar y safle yn CEF Berwyn er mwyn sicrhau bod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth am yr amgylchedd. Ni dderbynnir ceisiadau am gyfweliadau rhithiol.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- RGN, Cymhwyster Proffesiynol Cysylltiedig
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Addysg Ôl-Radd mewn maes perthnasol
Meini prawf dymunol
- Rhagnodi gan Nyrsys neu sy'n barod i ymgymryd â
- Addysgu ac Asesu mewn Ymarfer Clinigol. Tystysgrif RCGP mewn camddefnyddio sylweddau rhan 1 neu gymhwyster cydnabyddedig cyfatebol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol mewn rôl Band 5. Profiad blaenorol mewn rôl reoli neu oruchwylio
- Profiadau nyrsio camddefnyddio sylweddau
- Profiad o gynllunio, darparu a gwerthuso cynlluniau gofal mewn ymateb i anghenion cymhleth
Meini prawf dymunol
- Nyrsio mewn amgylchedd diogel
- Profiad o ddatblygu polisïau a phrotocolau
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jonathan Parry
- Teitl y swydd
- Substance Misuse Team Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01978 523390
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth






.png)
