Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Nursing
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Banc: 0 diwrnod (Yn ôl yr angen)
- Oriau
- Gweithio hyblyg - 0 awr yr wythnos (Yn ôl yr angen)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMRBANKB5-E-RW-0626A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Maelor Wrecsam
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £32,557 - £39,631 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/07/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Nyrs Gofresteddig Banc - Dwyrain
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio’n seiliedig ar dystiolaeth, gan weithio ar y cyd gydag eraill i gwrdd ag angen cleifion a’u teuluoedd.
Cynorthwyo i reoli a threfnu eu lleoliad clinigol a chymryd rhan yn addysg,
datblygiad a goruchwyliaeth aelodau eraill staff.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym ni wrthi'n Recriwtio Nyrsys Cofrestredig i ymuno â banc y nyrsys yma yng Ngogledd Cymru yn ein Hysbytai Cyffredinol Dosbarth ac Ysbytai Cymunedol
Gweithio hyblyg, oriau hwylus, pan fydd angen i chi weithio...
Ydych chi'n nyrs gofrestredig sy'n dewis gweithio'n hyblyg fel gyrfa, oherwydd eich amgylchiadau domestig neu oherwydd eich bod yn awyddus i gael mwy o amrywiaeth?
Neu, ydych chi'n ansicr ym mha fath o ysbyty neu amgylchedd rydych am weithio, yna gallai ddewis gweithio trwy'r banc staff dros dro/nyrsio fel ffordd o gadw a gwella eich sgiliau neu ennill profiad mewn lleoliad newydd eich helpu i
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Gwybodaeth a Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cofrestredig â NMC
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ar ôl cofrestru e.e. POVA, Diogelu Plant, Cynnal Bywyd Canolraddol mewn lleoliad clinigol os oes angen.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth cyn gofrestru mewn gofal nyrsio uniongyrchol
- Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd
- Diddordeb mewn datblygu sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth glir o fframwaith llywodraethu clingol
- Gweithredu arfer yn seiliedig ar dystiolaeth
Sgiliau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Deall yn llwyr beth yw contract gofal
- Y gallu i ddogfennu manylion yn glir ac yn gywir
- Dealltwriaeth lawn o'r broses gydsynio
- Sgiliau TG sylfaenol
- Gallu cyfathrebu'n effeithiol
- Gallu gweithio dan bwysau
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth o'r polisi adrodd ar ddigwyddiadau
- Siaradwr Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nia Hays
- Teitl y swydd
- Senior Temporary Staffing Officer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000858343
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth






.png)
