Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gofal sylfaenol
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-HMP-NMR010-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
CEM Berwyn
Tref
Wrecsam
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
12/11/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Nyrs Bractis Cyffredinol - CEM Berwyn

Gradd 6

Trosolwg o'r swydd

Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am nyrsio ym maes meddygaeth deulu i boblogaeth y carchar. Ffocws y rôl yw darparu ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gleifion sy'n cyflwyno ag angen am ofal clwyfau cymhleth, a darparu gofal iechyd ataliol i'r boblogaeth. Yn ymarferydd annibynnol, bydd y nyrs yn gyfrifol am y gofal a ddarperir, ac yn amlygu sgiliau meddwl beirniadol a gwneud penderfyniadau clinigol er mwyn rheoli cleifion. Bydd yn gweithio'n gydweithredol yn y tîm ymarfer cyffredinol i fodloni anghenion cleifion, cefnogi cyflawni polisi a gweithdrefnau, a darparu arweinyddiaeth nyrsio yn ôl yr angen.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae'r un croeso i siaradwyr y Gymraeg a/neu'r Saesneg ymgeisio am y swydd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Asesu, cynllunio, datblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglenni triniaeth sy'n bodloni anghenion gofal clwyfau'r boblogaeth.

Asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso cynlluniau triniaeth unigol ar gyfer cleifion sydd ag angen gofal clwyfau hysbys
Pan fo hynny'n briodol, mynd ati'n rhagweithiol i adnabod, rhoi diagnosis a rheoli cynlluniau triniaeth ar gyfer cleifion sydd â risg o ddatblygu angen am ofal clwyfau.

Gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i roi diagnosis, monitro, rheoli a thrin clwyfau, gan gynnwys dulliau triniaeth nad ydynt yn seiliedig ar gyffuriau gan ddefnyddio cynllun rheoli, ac yn unol â pholisïau a gofynion ymarfer cenedlaethol a lleol.

Edrych ar y dresin ar y clwyfau i sicrhau effeithiolrwydd therapiwtig sy'n briodol i anghenion y claf ac yn unol ag arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a phrotocolau ac ymarfer cenedlaethol.

Gweithio gyda chleifion i wella cydymffurfiaeth â thriniaethau sydd wedi'u rhagnodi.

Rhoi gwybodaeth a chyngor am reoli meddyginiaeth a ragnodir neu rai a werthir dros y cownter, eu sgil-effeithiau a’r rhyngweithiadau.

Blaenoriaethu problemau iechyd ac ymyrryd yn briodol er mwyn helpu'r claf mewn sefyllfaoedd cymhleth, brys neu argyfyngus, gan gynnwys rhoi gofal brys effeithiol.

Cynorthwyo cleifion i fabwysiadu strategaethau hybu iechyd sy'n eu hannog i fyw'n iach, a chymhwyso egwyddorion hunanofal.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.

Sylwer bod unrhyw gynnig cyflogaeth yn amodol ar gael gwiriad DBS a chliriad charchar llwyddiannus. 

Sylwch os bydd eich cais yn llwyddiannus ac y cewch  eich gwahodd i gyfweliad, cânt eu cynnal ar y safle yn CEF Berwyn er mwyn sicrhau bod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth am yr amgylchedd. Ni dderbynnir ceisiadau am gyfweliadau rhithiol.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs lefel gyntaf sydd wedi cofrestru
  • Hyfforddiant a phrofiad o oruchwyliaeth glinigol
Meini prawf dymunol
  • Aelodaeth o gorff proffesiynol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-gofrestru digonol
  • Profiad o reoli cyflyrau hirdymor dan arweiniad nyrsys
  • Profiad o roi protocolau a chanllawiau clinigol ar waith

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Robert Lightburn
Teitl y swydd
Head of Healthcare
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01978 523132
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg