Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gofal sylfaenol
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-HMP-NMR001-0126
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
CEM Berwyn
Tref
Wrecsam
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
01/02/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Nyrs Bractis Cyffredinol - CEM Berwyn

Gradd 6

Trosolwg o'r swydd

Mae deilydd y swydd yn gyfrifol am ddarparu nyrsio practis cyffredinol i boblogaeth gyfan y practis. Canolbwynt y rôl yw darparu ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gleifion sydd â chyflwr hir dymor, a darparu gofal iechyd ataliol i boblogaeth y practis. Fel ymarferydd annibynnol mae'r nyrs yn gyfrifol am y gofal a ddarperir, gan ddangos meddwl critigol a sgiliau wrth wneud penderfyniadau clinigol wrth reoli cleifion. Bydd yn gweithio ar y cyd o fewn tîm practis cyffredinol i fodloni anghenion cleifion, cefnogi darparu polisi a gweithdrefnau, a darparu arweinyddiaeth nyrs fel bo angen.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Asesu rhaglenni triniaeth sy'n hyrwyddo iechyd a lles, eu cynllunio, eu datblygu, eu gweithredu a'u dadansoddi
  • Asesu cynlluniau triniaeth unigol, eu cynllunio, gweithredu a'u dadansoddi ar gyfer cleifion sydd â chyflwr hir dymor hysbys
  • Dynodi cynlluniau triniaeth yn rhagweithiol, eu diagnosis a'u rheoli ar gyfer cleifion sydd mewn risg o ddatblygu cyflwr hir dymor fel bo'n addas
  • Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill i roi diagnosis o gyflyrau hir dymor, eu monitro, rheoli a'u trin, yn cynnwys dulliau trin nad ydynt yn seiliedig ar gyffuriau gan ddefnyddio cynllun rheoli, ac yn unol â pholisïau cenedlaethol a lleol ac anghenion ymarfer
  • Adolygu meddyginiaethau ar gyfer effeithiolrwydd therapiwtig, sy'n addas ar gyfer anghenion y claf ac yn unol ag ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a phrotocolau cenedlaethol ac arfer
  • Gweithio gyda chleifion er mwyn cefnogi cadw at driniaethau a ragnodwyd
  • Darparu gwybodaeth a chyngor ar feddyginiaeth a ragnodwyd neu feddyginiaeth dros y cownter ar drefn feddyginiaeth, sgil effeithiau a rhyngweithiadau
  • Blaenoriaethu problemau iechyd ac ymyrryd yn briodol er mwyn helpu'r claf mewn sefyllfaoedd cymhleth, brys neu argyfyngus, gan gynnwys rhoi gofal brys effeithiol
  • Cefnogi cleifion i fabwysiadu strategaethau hyrwyddo iechyd sy'n hyrwyddo cleifion i fyw'n iach, a chymhwyso egwyddorion hunan ofal
  • Cefnogi anghenion iechyd merched sy'n ymddangos ar gyfer cynllunio teulu ac ar gyfer ymgynghoriadau seitoleg serfigol a'u rheoli

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gweler y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person ar gyfer y rôl hon, sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs lefel gyntaf gofrestredig
  • Cofrestriad statudol gweithredol
  • Profiad a chymhwyster mentoriaeth
  • brofiad nyrsio cychwynnol neu gymunedol diweddar
  • Gwybodaeth am reoli cleifion sydd â chyflyrau hir dymor
  • Gwybodaeth am atebolrwydd eich rôl eich hun a rolau eraill mewn gwasanaeth dan arweiniad nyrs

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster arbenigol nyrsio cymunedol neu gyfwerth
  • Aelod o gorff proffesiynol
  • Gallu i ddarparu addysgu a mentoriaeth mewn sefyllfa glinigol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Nick Whiteley
Teitl y swydd
Patient Safety Improvement Matron
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01978 523276
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Additional contact:

Julie Logan - Primary Care Lead

[email protected]

01978 523276