Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Camddefnyddio Sylweddau
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (37.5 awr yr wythnos.)
Cyfeirnod y swydd
050-HMP-ACS003-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
CEM Berwyn
Tref
Wrecsam
Cyflog
£28,819 - £31,626 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
03/09/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ymarferydd Cynorthwyol - Camddefnyddio Sylweddau Clinigol

Gradd 4

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle newydd a chyffrous wedi codi o fewn y gwasanaeth camddefnyddio sylweddau ar gyfer Ymarferydd Cynorthwyol profiadol, brwdfrydig a blaengar i ymuno ȃ thîm prysur a chefnogol yn CEF Berwyn. 

Rydym yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a cryf ei gymhelliant i ddarparu ymyriadau clinigol, gan gynnwys sgrinio ar gyfer firysau a gludir yn y gwaed, hyrwyddo brechiadau Hepatitis B a chynorthwyo gyda llwyth achosion. Byddwch yn gweithio o fewn tîm o glinigwyr sy'n ymroddedig i weithio tuag at meicro-ddileu hepatitis C tra hefyd yn canolbwyntio ar HIV a hepatitis B i boblogaeth o ddynion o bob cefndir.

Mae meddu ar sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol gan y bydd y rôl yn cynnwys cymorth uniongyrchol i ddefnyddwyr y gwasanaeth ar y llwybr triniaeth a sefydlu perthynas waith dda gyda'r carchar a'r gwasanaethau cymunedol. Yn ogystal, bydd y rôl yn cynnwys darparu sesiynau hyfforddi i garcharorion a staff er mwyn hybu ymwybyddiaeth, gan gynnwys llwybrau trosglwyddo posibl, rheoli a thrin firysau a gludir yn y gwaed.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.  

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd disgwyl i chi fynychu a chyfrannu at gyfarfodydd amlddisgyblaethol, cysylltu gyda thimau cymunedol a chynorthwyo, lle bo angen, gyda thasgau gweinyddol, megis casglu data ac archwiliadau i sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni ac yn cynnal y targedau a argymhellir fel sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Rydym yn awyddus i benodi Ymarferydd Cynorthwyol brwdfrydig, llawn cymhelliant gyda diddordeb gwirioneddol mewn Firysau a Gludir yn y Gwaed. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gynnal FibroScan, Profion Smotyn Gwaed Sych, swabio’r geg ac wedi hyfforddi mewn fflebotomi.

Ein nod yw canfod staff sy’n credu’n gryf mewn adferiad. Mae'n bwysig bod gennych ddealltwriaeth dda o ofalu am gleifion o bob cefndir gan gynnwys ymwybyddiaeth o salwch meddwl a chamddefnyddio sylweddau er mwyn adnabod ymddygiadau peryglus.

Byddwch yn ymuno â thîm sydd wedi ymrwymo i wella iechyd a lles cleifion o dan ein gofal, felly bydd angen i chi fod yn unigolyn sy’n hawdd siarad ȃ chi, yn egnïol, yn wydn ac yn gallu addasu i amgylchedd sy'n newid yn barhaus.

Yn ogystal, rydym yn awyddus i ddatblygu gweithwyr a chynnig dilyniant rhagorol trwy lwybrau gyrfa amrywiol.

Sylwch os bydd eich cais yn llwyddiannus ac y cewch  eich gwahodd i gyfweliad, cânt eu cynnal ar y safle yn CEF Berwyn er mwyn sicrhau bod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth am yr amgylchedd. Ni dderbynnir ceisiadau am gyfweliadau rhithiol.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Gradd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu brofiad cyfatebol
  • Tystiolaeth ddiweddar o roi gwybodaeth glinigol ar sail tystiolaeth ar waith (cyfateb i lefel gyrfa 4)
  • Dealltwriaeth o derfynau galluedd rôl Ymarferydd Cynorthwyol
Meini prawf dymunol
  • Wedi cwblhau modiwlau Gradd Sylfaen mewn maes clinigol uniongyrchol perthnasol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad helaeth o weithio mewn gwasanaeth clinigol perthnasol fel uwch HCA / HCSW
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio fel Ymarferydd Cynorthwyol mewn gwasanaeth clinigol perthnasol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Nick Whiteley
Teitl y swydd
Patient Safety Improvement Matron
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01978 523276
Gwybodaeth i gefnogi eich cais