Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Theatr
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-ACS597-0726
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Maelor Wrexham
Tref
Wrecsam
Cyflog
£26,300 - £27,890 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/07/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cynorthwyydd Theatr

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Chwilio am rôl heriol a gwerth chweil? Eisiau swydd lle nad oes dau ddiwrnod yr un peth?

Mae arnom angen personél uchel eu cymhelliant ac ymroddedig ar gyfer y swydd sydd ar gael fel Cynorthwyydd Theatr yn Theatrau Llawdriniaeth Ysbyty Maelor Wrecsam.

Bydd yr holl ddechreuwyr newydd yn cael eu cefnogi drwy'r rhaglen preceptoriaeth sydd ar gael yn yr adran.

Penodiad cychwynnol ym mand 2.  Ar ôl cwblhau cymwyseddau mewnol byddwch yn symud ymlaen i fand 3.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn gyfrifol am: Ddarparu cefnogaeth ar gyfer darparu gofal safon uwch i gleifion o fewn ycymhleth theatr. Gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol yn y theatr. Sicrhau bod gofal cleifion yn anwahaniaethol a di-niweidiol. Sicrhau gofal o safon uchel.

Cyflawni tasgau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau uned

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc sy'n gysylltiedig â gofal iechyd neu brofiad cyfatebol a gall ddangos tystiolaeth o gymhwysedd seiliedig ar waith gan ddangos gwybodaeth ddamcaniaethol a'r gallu i ymgymryd â dyletswyddau gofal clinigol sy'n berthnasol i'r rôl a enillir trwy brofiad a hyfforddiant seiliedig ar waith/cyrsiau byr
  • Gwybodaeth am y Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru a Chanllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan (HEIW)
  • Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau perthnasol o fewn lleoliad Gofal Iechyd, er enghraifft egwyddorion Diogelu oedolion/plant i gadw cleifion yn eu gofal yn ddiogel ac yn gyfrinachol, er enghraifft y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster lefel 3 mewn cymorth amdriniaethol/neu gymhwyster cyfatebol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio o fewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol, gan ddarparu gofal uniongyrchol i glefion
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio gyda grwpiau cleifion sy'n berthnasol i'r maes ymarfer
  • Profiad o weithio o fewn y GIG

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu da - ar lafar ac yn ysgrifenedig gyda'r gallu i gyfleu gwybodaeth yn glir ac yn sensitif
  • Yn gallu gweithio i safon uchel gyda chyn lleied o oruchwyliaeth a phosibl
  • Yn gallu aros yn bwyllog mewn sefyllfaoedd sy'n achosi straen
  • Yn gallu dangos agwedd ofalgar a thosturiol
  • Sgiliau trefnu gyda'r gallu i gynllunio a blaenoriaethu llwyth gwaith eich hun ac eraill yn effeithlon
  • Yn gallu defnyddio technoleg i gyflawni'r rol er enghraifft Microsoft Office, platfformau rhithwir fel TEAMS
  • Gallu corfforol i gyflawni dyletswyddau'r rol gan gynnwys codi cynorthwyo gyda symudedd a chyflawni tasgau llaw eraill
Meini prawf dymunol
  • Mae sgiliau cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad darllen ac ysgrifennu

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Cliriad DBS manylach gan gynnwys gwiriad rhestr waharddedig Oedolion a Plant
  • Yn gallu gweithio amrywiaeth o batrymau sifft

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rachel Lines
Teitl y swydd
Theatre Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

David Bevan 

ffôn:  01978  726111

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg