Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Pediatreg
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 26.6 awr yr wythnos (Ddyddiau)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR623-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 02/10/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Nyrs Arbenigol Plant mewn Anhwylderau Gwaed Etifeddol Paediatrig
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Ardal Ganolog
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer nyrs Arbenigol Pediatrig brwdfrydig ac ysgogol mewn Anhwylderau Gwaed Etifeddol i ymuno â’r Gwasanaethau Plant o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Bydd y swydd yn cynnwys gweithio ar y wardiau cleifion mewnol, unedau asesu a chartrefi cleifion ac ysgolion ledled y Bwrdd Iechyd a bod yn gyfranogwr yn narpariaeth a datblygiad y gwasanaeth Haematoleg a Hemoffilia presennol, gan weithio gyda thimau nyrsio a meddygol o fewn y Bwrdd Iechyd ac Ysbyty Alder Hey.
Rydym yn chwilio am nyrs gyda gwybodaeth a sgiliau clinigol arbenigol diweddar, gan gynnwys cymhwyster a phrofiad rhagnodi. Byddai rhywfaint o brofiad o weithredu newidiadau o fewn gwasanaethau yn fuddiol.
Mae’r nyrs Arbenigol Pediatrig Hematoleg/Hemoffilia yn allweddol i gydlyniad y gwasanaeth o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Bydd y rôl yn cynnwys cysylltu’n rheolaidd gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws safleoedd gofal iechyd o fewn Gogledd Cymru a’n canolfan trydyddol yn Alder Hey.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r Nyrs Glinigol Arbenigol yn gweithio ar draws BIPBC o fewn arbenigedd clinigol yn gwneud rolau ymarferwyr, addysgwyr, meddygon ymgynghorol, ymchwilwyr, arweinwyr/ asiant newid a chydlynydd gofal/ rheolwr achos yn gweithio i gael rhagoriaeth glinigol a chanlyniadau iechyd gwell. Darparu pob agwedd ar ofal nyrsio a chymorth cyffredinol i blant a phobl ifanc â #IBD gan sicrhau bod gwasanaeth di-dor rhwng yr ysbyty a gwasanaethau cymunedol yn cael eu darparu.
Mae arfer glinigol yn ganolog i rôl y Nyrs Glinigol Arbenigol, fodd bynnag er mwyn dylanwadu a gwella arfer nyrsio mae'n hanfodol bod y rôl yn cael ei thanategu gan alluoedd fel yr amlinellwyd yn y disgrifiad swydd isod. Datblygu'r gwasanaeth hwn ac ymgymryd â gweithgarwch archwilio rheolaidd i asesu effeithiolrwydd a gwneud argymhellion.
Mae'r Gwasanaeth Nyrsio IBD yn rhan o'r trefniadau gofal ar y cyd sydd wedi'u sefydlu rhwng y Ganolfan Drydyddol (yn gweithio yn Ysbyty Alder Hey, Lerpwl) a BIPBC.
Mae'r swydd hon yn cynnwys llwyth gwaith clinigol. Hefyd yn cynnal cyswllt rhwng Gofal Cychwynnol a Llym, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Rhoi gwybodaeth nyrsio arbenigol o ran rheoli gofal cleifion o fewn maes arfer arbenigol a ddiffiniwyd, gan weithio gyda'r claf, teulu neu weithwyr proffesiynol iechyd eraill i ddarparu gofal nyrsio prydlon i wella'r canlyniadau.
Defnyddio sgiliau asesu iechyd uwch i asesu cleifion ac arfer ei hun i gynnal gallu clinigol.
Rhagnodi ymyriadau nyrsio uwch ar sail tystiolaeth, mesurau diagnostig, offer, gweithdrefnau a thriniaethau i fodloni anghenion y cleifion, teuluoedd a grwpiau, yn unol â pharatoad proffesiynol, polisïau sefydliadol a sgôp arfer.
Yn batrwm ymddwyn ar gyfer arfer clinigol arbenigol ar sail tystiolaeth, yn cael ei weld yn effeithiol iawn, datblygol a gwybodus.
Yn tywys a chefnogi eraill yn yr arbenigedd wrth asesu, gwneud penderfyniadau clinigol, gweithredu, gwerthuso a dogfennu gofal.
Rhoi arweinyddiaeth, bod yn batrwm ymddwyn ac arwain eraill mewn arfer nyrsio.
Rhwydweithio'n genedlaethol i ddynodi arferion nyrsio a newidiadau mewn arfer a'i weithredu. Dynodi cyfleoedd ar gyfer iechyd cyffredinol/ addysg ar les.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Wedi cofrestru â'r Cyngor Nyrsio a Bydwragedd.
- Profiad ôl-raddedig o weithio naill ai o fewn yr arbenigedd clinigol neu rôl nyrsio perthnasol.
- Yn meddu ar Radd Ôl-radd berthnasol neu'n gweithio tuag ato yn weithredol, a chwblhau'r Radd o fewn amserlen a gytunwyd arno
- Arddangos sgiliau nyrsio y gellir eu cymharu ag uwch nyrs sy'n gweithio ar y lefel hon.
- Arddangos sgiliau mewn arweinyddiaeth nyrsio
- Materion cyfredol ar gyfer nyrsio ac iechyd yng Nghymru.
- Polisïau, codau, canllawiau a deddfwriaeth llywodraeth cyfredol sy'n effeithio ar faes yr arbenigedd
- Safonau a chodau proffesiynol nyrsio cyfredol.
- Amcanion, nodau a gwelediad cyfredol BIPBC.
Meini prawf dymunol
- Arddangos y gallu i ddatblygu safonau nyrsio a mentrau ansawdd.
- Arddangos sgiliau addysgu, mentora a hyfforddi.
- Arddangos eich bod wedi cymryd rhan mewn ymchwil sydd wedi newid arfer nyrsio.
- Modiwl neu gymhwyster mewn maes arbenigol.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad a hygrededd gyda'r tîm gofal iechyd fel adnodd proffesiynol
- Arfer Ôl-raddedig o fewn sgôp arbenigedd/arfer clinigol a ddiffiniwyd.
- Rhwydweithio'n effeithiol mewn maes arfer/ arbenigedd.
- Gallu arddangos y gallu i gyfleu cyngor nyrsio ar sail tystiolaeth i Dîm Amlddisgyblaethol.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Ymarfer barn nyrsio yn annibynnol, defnyddio sgiliau asesu uwch, dechrau arloesiadau clinigol priodol, gwerthuso canlyniadau, rhoi cyngor i eraill a rhoi rationale cadarn i weithredoedd ym maes yr arbenigedd/arfer.
- Gweithio'n annibynnol ac fel rhan o'r tîm amlddisgyblaethol, yn defnyddio arfer tystiolaeth, ym maes yr arbenigedd
- Dechrau gweithgareddau hyrwyddo iechyd i annog ymddygiadau hyrwyddo iechyd a mabwysiadu cryfderau a photensial cleifion a staff.
- Bod yn arweinydd proffesiynol a phatrwm ymddwyn, gyda phrawf o'r gallu i ddylanwadu, ysgogi a datblygu eraill.
- Bod yn hyrwyddwr am y proffesiwn nyrsio a'i hyrwyddo
- Sgiliau TG e.e. Microsoft
Meini prawf dymunol
- Cronfeydd data clinigol y Bwrdd Iechyd e.e. WPAS.
Personol
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rheoli amser hyfedr
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Gallu i weithio mewn amgylchedd amlddisgyblaethol ac ar y cyd.
- Ymrwymiad i wella ansawdd yn barhaus.
- Yn gallu gwneud penderfyniadau annibynnol
- Gallu dangos rhinweddau adweinyddol.
- Gallu i deithio ar draws ardal ddaearyddol y Bwrdd Iechyd
- Parodrwydd i weithio mewn ardal ddwyieithog.
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg neu fod yn barod i gyflawni lefel briodol o allu llafar o fewn amserlen gytûn
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Cara Roberts
- Teitl y swydd
- Children's Clinical Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 844359
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Yvette Gibson
Ysgrifenyddes
03000 844359
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth