Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
ECRS
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-NMR805-1125
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Unit 14
Tref
I'w gadarnhau
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
10/12/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Rheolwr Ty ECRS

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae’r Gwasanaeth Preswyl Cymunedol Uwch yn darparu cymorth o safon uchel i unigolion sydd ag awtistiaeth, anableddau dysgu ac anableddau corfforol sy’n byw â chymorth. Rydym yn gweithio’n agos gydag unigolion a’u teuluoedd wrth gynllunio a datblygu cymorth sydd wedi cael ei deilwra ar gyfer pob unigolyn.

Os byddwch yn llwyddiannus gyda’ch cais, byddwch yn cael cymorth, ymroddiad ac arweiniad llawn uwch aelod o staff gofal iechyd yn ogystal â mynediad at amrywiaeth o fanteision sy’n cynnwys: hyfforddiant am ddim; DBS am ddim; opsiynau gweithio hyblyg; hawl i wyliau llawn a phensiwn.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Pwrpas y rôl hon yw darparu cyngor, arweiniad, arweinyddiaeth a gofal nyrsio arbenigol. 

Asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio sy’n seiliedig ar dystiolaeth. 

Rhoi cyngor arbenigol a darparu ymarfer clinigol gwych. 

Gweithio’n annibynnol a rheoli llwyth gwaith eu hunain fel arbenigwr arweiniol yn eu maes. 

Darparu addysg a hyfforddiant arbenigol i staff. 

Cydweithio gyda chydweithwyr clinigol. 

Dangos gwerthoedd y Bwrdd Iechyd a sicrhau bod eraill yn dangos yr un gwerthoedd.

 

Bydd gan bawb yn y Gwasanaeth Preswyl Cymunedol Uwch Gynlluniau Swydd. Yn gyffredinol, bydd wythnos arferol yn cynnwys 8.5 sesiwn ar gyfer gweithgaredd clinigol a 1.5 sesiwn ar gyfer Cefnogi Gweithgaredd Proffesiynol (SPA), ond bydd hyn yn cael ei benderfynu ar sail unigolyn ac yn cael ei adolygu’n flynyddol (NIPEC 2012).

 

Gweithgaredd Clinigol – e.e. Clinigau; gwaith ar y wardiau; ymgynghoriadau dros y ffôn ac ati.

          Cefnogi Gweithgaredd Proffesiynol (SPA) – e.e. archwilio; Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD); addysgu; ymchwil; gweinyddu.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Registered Nurse (Part 1)

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad proffesiynol
  • Cymhwyster ôl-raddedig arbenigol neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster addysgu (neu brofiad cyfatebol)
  • Rhagnodi anfeddygol (v300)

Essential

Meini prawf hanfodol
  • Gradd Baglor
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau clinigol uwch

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sarah Morgan-Jones
Teitl y swydd
Service Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 859335