Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Trawma
Gradd
Band 3
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Oriau llawn a rhan amser amrywiol ar gael)
Cyfeirnod y swydd
100-ACS093-0426
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£26,300 - £27,890 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
20/04/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
28/05/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweithiwr Cefnogi Nyrsio (Teifi)

Band 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.

Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymorth Nyrsio dynamig a llawn cymhelliant i ymuno  â'n tîm ymroddedig ar Ward Teifi yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin.

Mae Ward Teifi yn amgylchedd Trawma ac Orthopedig prysur, sy'n gofalu am gleifion ag ystod eang o anafiadau acíwt ac anghenion ôl-lawdriniaeth.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolion sy'n frwd dros ddarparu gofal tosturiol o safon, ac sy'n ffynnu mewn lleoliad clinigol lle mae pethau’n digwydd yn gyflym. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda nyrsys cofrestredig a'r tîm amlddisgyblaethol ehangach i’w cefnogi i ddarparu gofal diogel, effeithiol sy'n canolbwyntio ar y claf.

Byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth gynnal urddas y claf, hyrwyddo annibyniaeth, a sicrhau profiad cadarnhaol i gleifion trwy gydol eu harhosiad yn yr ysbyty.

Rydym yn chwilio am unigolion sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol, agwedd ofalgar a phroffesiynol, a pharodrwydd i ddysgu a datblygu yn y rôl.

Mae profiad blaenorol o ofal iechyd yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol gan y darperir hyfforddiant a chymorth llawn. Yn gyfnewid, byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm profiadol, agos atoch, gyda chyfleoedd ar gyfer dysgu, datblygiad a dilyniant parhaus o fewn y GIG.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae yna gyfle i ddysgu sgiliau newydd a chael profiad pellach o ofalu am gleifion sy'n  ddifrifol wael wrth i chi ddatblygu'n broffesiynol mewn amgylchedd cadarnhaol a heriol. Bydd y rôl hon yn gofyn i chi gynnal arsylwadau clinigol dirprwyedig ac i gyfathrebu'n effeithiol mewn y tîm amlddisgyblaethol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau gofal  cleifion hanfodol, gan gynnwys cynorthwyo gyda gofal personol, cefnogi cleifion gyda symudedd ac adsefydlu, monitro a chofnodi arwyddion bywyd, a chyfrannu at strategaethau gofal ardaloedd pwyso ac atal cwympiadau.

Byddwch hefyd yn cefnogi cleifion gyda maeth a hydradu, yn cynnal amgylchedd clinigol diogel a glân, ac yn sicrhau bod y gofal a ddarperir yn cael ei gofnodi’n gywir.

Bydd disgwyl i chi weithio ar y cyd â nyrsys cofrestredig, meddygon a thimau therapi i ddarparu gofal o safon, sy'n canolbwyntio ar y claf, gan hyrwyddo urddas, annibyniaeth a llesiant bob amser.

Mae'r uned hon yn gweithredu amrywiaeth o batrymau shifft i fodloni gofynion y gwasanaeth, gan gynnwys cylchdroi dydd a nos.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Cynhelir y cyfweliadau ar 28/05/26

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Manyleb y person

Qualifications and knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc cysylltiedig â gofal iechyd Neu Brofiad cyfatebol a bydd yn gallu dangos tystiolaeth o gymhwysedd seiliedig ar waith ac arddangos gwybodaeth ddamcaniaethol. Bydd yn gallu cyflawni dyletswyddau gofal clinigol sy'n berthnasol i'r rôl a enillir drwy brofiad a hyfforddiant seiliedig ar waith/cyrsiau byr
  • Gwybodaeth am y Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru a Chanllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan (AaGIC)
  • Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau perthnasol yn y lleoliad gofal iechyd er enghraifft egwyddorion Diogelu oedolion/plant i gadw cleifion yn eu gofal yn ddiogel, a chyfrinachedd er enghraifft y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol, gan ddarparu gofal uniongyrchol i gleifion
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio gyda grwpiau cleifion sy'n berthnasol i faes yr ymarfer
  • Profiad o weithio yn y GIG

Sgiliau iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Patrick Barnett
Teitl y swydd
Charge Nurse
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
02167 227750
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg