Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gymuned
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 24 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR498-0826
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Iechyd Plant Maelor
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £40,559 - £48,841 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 02/09/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Dirprwy Reolwr - Gwasanaeth Nyrsio Ardal Gyda'r Nos a Dros Nos
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolion cymwys a phrofiadol ymuno â'r gwasanaeth Nyrsio Allan o Oriau sy'n cwmpasu Cymuned Iechyd Integredig y Dwyrain. Mae hon yn rôl Band 6.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am arwain a chydlynu tîm o nyrsys ar shifft, er mwyn darparu'r safon uchaf o ofal i gleifion yn y gymuned. Byddant yn gyfrifol am sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal mewn modd amserol, yn y lle iawn, gan y person iawn.
Rhaid iddynt allu asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio ym mhob lleoliad cymunedol.. Mae'r gallu i gydweithio â Thimau Nyrsio Ardal ac aelodau eraill o'r gwasanaeth allan o oriau yn rhan hanfodol o'r rôl hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r gwasanaeth Nyrsio Ardal Allan o Oriau yn gweithredu rhwng 18.00 a 08.00 ac mae'n wasanaeth 7 diwrnod. Er mai rôl glinigol yw hon, bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd gefnogi a dirprwyo ar ran arweinydd y tîm ym mhob dyletswydd reoli.
Am drafodaethau anffurfiol cysylltwch â Caren Broster neu Mandy Lee Evans – Arweinwyr Tîm.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o weithio'n effeithiol mewn tîm
- Y gallu i weithio'n bositif fel rhan o dîm amlddisgyblaethol
- Gallu gweithio'n annibynnol
- Dangos hyblygrwydd i addasu i newidiadau sefydliadol yn ogystal â newidiadau yn y gwasanaeth.
Meini prawf dymunol
- Sgiliau arwain ac ysgogi
Cymhwyster a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu cyfleu a derbyn gwybodaeth gymhleth
- Yn gallu canfod problem a chymryd camau gweithredu lliniaru
- Yn gallu dadansoddi canlyniadau asesiadau a'u trosglwyddo i becynnau gofal perthnasol
- Gallu gweithio ar eich pen eich hun yn ogystal ag o fewn tîm
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
- Sgiliau TG
- Gallu rheoli adnoddau
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o weithio naill ai o fewn yr arbenigedd clinigol neu rôl nyrsio berthnasol
- Gallu dangos cymhwyso methodoleg gwella.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn lleoliad tîm amlddisgyblaethol.
- Profiad/gwybodaeth am rôl uwch nyrs
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs lefel cyntaf Cofrestriad â’r NMC
- Tystiolaeth o gymhwyster lefel gradd neu'n gweithio tuag at hyn o fewn amserlen y cytunwyd arno.
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster rheoli a /neu brofiad rheoli
- Mentor/Goruchwyliwr/Aseswr
Arall
Meini prawf hanfodol
- Agwedd hyblyg at waith.
- Gallu i deithio
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Caren Broster
- Teitl y swydd
- Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 848143
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth






.png)
